07/09/2026
✨ SIOP I’W RENTU | SHOP SPACE TO RENT – PWLLHELI ✨
ENGLISH IN THE COMMENTS
Hoffech chi roi cynnig ar gael eich siop eich hun heb orfod ymrwymo i gontract hirdymor? 🛍️
Dw i’n cynnig fy siop yng nghanol tref Pwllheli i’w rhentu am gyfnodau byr o 4 wythnos yr hydref / gaeaf yma. 🤎
A jest i fod yn glir… dydy LLEWES ddim yn cau! 🤎
Da ni’n symud i’n tŷ newydd yn fuan, felly am y misoedd nesaf fydda i ddim yn gweithio oriau siop traddodiadol.
Yn hytrach na chael y siop yn sefyll yn wag yn ystod y dydd – yn enwedig yn ystod un o adegau siopa prysuraf y flwyddyn – byddwn i wrth fy modd yn rhoi’r cyfle i fusnes bach arall wneud defnydd o’r lle. ✨
📍 Canol tref Pwllheli
🍂 Hydref – ar gael
🎄 Tachwedd – ar gael
🎁 Rhagfyr – ar gael
🗓️ Cyfnodau rhentu o 4 wythnos
Perffaith ar gyfer siop dros dro, gwerthwr ar-lein sydd eisiau rhoi cynnig ar siop go iawn, busnes newydd sydd eisiau profi’r dyfroedd, neu fusnes sydd eisoes wedi’i sefydlu ac eisiau presenoldeb ar y stryd fawr yn y cyfnod cyn y Nadolig. 🛍️
Gallwch rentu un cyfnod neu fwy nag un mis, yn dibynnu ar argaeledd.
Bydd LLEWES yn parhau ar-lein fel arfer, gan gynnwys fy holl gynnyrch Nadolig 🎄✨ – fyddan nhw jest ddim ar gael i’w gweld yn y siop tra bod y lle’n cael ei rentu.
💌 Diddordeb?
Anfonwch neges breifat ata i am brisiau, beth sydd wedi’i gynnwys a mwy o wybodaeth.
A plis rhannwch neu tagiwch fusnes bach rydych chi’n meddwl fyddai’n berffaith ar gyfer y lle! 🤎✨